Text Box: Mark Drakeford AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

26 Ebrill 2017

 

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet

Hawliau Dynol yng Nghymru

Rydym wedi dechrau ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru Mae ein hymchwiliad yn edrych ar:

- effaith penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd ar y modd yr amddiffynnir hawliau dynol yng Nghymru;

- effaith cynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei le; a

- chanfyddiadau'r cyhoedd o ran hawliau dynol yng Nghymru, yn arbennig pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru.

Rydym yn ysgrifennu atoch, oherwydd eich rôl ar y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Drafodaethau’r UE.

Rydym wedi cael  tystiolaeth ysgrifenedig , ac wedi dechrau cymryd tystiolaeth lafar, gan glywed gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Dr Simon Hoffman a’r Athro Thomas Glyn Watkin.

Yn y cyfnod cynnar hwn, roeddem am ofyn pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau bod amddiffyn hawliau dynol yn ganolog i'r trafodaethau ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth yn mynegi pryder y bydd y fframwaith cyfreithiol hawliau dynol yn y DU yn cael ei wanhau pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn oherwydd bod y fframwaith hawliau dynol presennol yn cael ei danategu i raddau helaeth gan rwymedigaethau cytuniad yr UE.

Er bod Llywodraeth y DU wedi datgan ei bwriad i gynnal lefel amddiffyniad hawliau dynol yn unol â'r UE ar yr adeg pan fydd y DU yn gadael yr UE, rydym wedi clywed pryderon am y risg o wahaniaeth cynyddol os bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno rhagor o amddiffyniadau, na fydd y DU yn dewis cyd-fynd â hwy efallai. Rydym wedi clywed pryderon am effaith colli cyllid o’r Undeb Ewropeaidd sy'n cefnogi’r seilwaith cydraddoldebau a hawliau dynol a beth fydd hyn yn ei olygu o ran amddiffyn hawliau dynol.

Mae pryderon sylweddol hefyd ynghylch colli amddiffyniadau sy'n deillio o Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE nad ydynt yn cael eu hamddiffyn gan y Ddeddf Hawliau Dynol. Er enghraifft, gwarant o urddas dynol, gwaharddiad ar fasnachu mewn pobl a'r amddiffyniadau cymdeithasol sydd wedi’u cynnwys yn Nheitl IV y Siarter.

Rydym hefyd yn nodi bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai'n cynnwys mewn maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2020, adduned i dynnu'n ôl o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ar adeg ysgrifennu hwn, nid yw’n glir a fydd hyn yn rhan o faniffesto unrhyw blaid, ar ôl cyhoeddi etholiad cyffredinol ym mis Mehefin, a pha effaith fyddai hyn yn ei gael ar amddiffyn hawliau dynol. Byddwn yn parhau i ddilyn y datblygiadau ar hyn.


 

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru am ein barn ar y mater pwysig hwn. Rwy'n anfon copi at Brif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, er gwybodaeth.

 

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.